Amdanaf fi

Shwmae, Eirlys ‘dw i. Mae gen i angerdd am gynaeafau drws cefn, gan gynnwys eich cynheaf chi!

Profiad

Rydw i wedi bod yn tyfu bwyd mewn lleoliadau trefol ers 1999, mewn gerddi preifat a mannau cymunedol hefyd. Mae fy mhrofiad proffesiynol yn cynnwys cynnal a chadw gerddi gyda Blooming Gardens, Hilary Barber (y ddau ym Mryste, y DU), a Yummy Yards, prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (a leolir yn yr iardiau cefn trefol Vancouver, Canada).

Addysg

Astudiais Garddwriaeth RHS i Lefel 3 trwy Gerddi Botaneg Prifysgol Bryste. Astudiais Amaeth Parhaol (Permaculture) yng Ngholeg Richmond, Llundain. Yn fy ngwaith garddio, dwi’n priodi elfennau garddwriaeth confensiynol gydag elfennau amaeth parhaol.

Ar fy meic

Dwi’n symud fy hun a fy offer ar feic – dyna sut dwi’n rholio. 😉 Sylwer fy mod yn medru cynnwys torri lawnt fel rhan o fy ngwasanaeth, ond nad wyf yn darparu’r peiriant torri gwair.

Ieithoedd

Gallaf ddarparu cyngor cynhaeaf trwy’r Gymraeg neu Saesneg. Os ydych chi a’ch teulu / tylwyth yn siarad iaith arall rwy’n fwy na hapus i ddysgu enwau planhigion yn yr iaith honno, i’ch helpu i deimlo’n gysylltiedig â’ch gardd.

A’r gweddill

Rwyf hefyd yn blogio (mewn Saesneg yn unig hyd yn hyn) am fy nheithiau mewn garddio bwytadwy – Harvest of Mistakes.  Rwyf ambell yn trefnu gweithgareddau diwylliannol am blanhigion a materion bwyd. Yr wyf yn cefnogi ffermwyr a rhwydweithiau tyfu bwyd, ar lefel leol ac ar lefel fyd-eang. Dwi’n gweithio i greu gerddi bwytadwy fel rhan o system fwyd ymarferol, cyfrifol ac a chynaliadwy.

Pam gerddi bwytadwy? Darllenwch mwy yma.

Cysylltwch nawr am ymweliad cysylltiedig am ddim