Dyma wahoddiad: i ddathlu garddio trwy’r Gymraeg, a’r Gymraeg trwy arddio!
I gymryd rhan, defnyddiwch yr hashnod #geirfagarddio ar Instagram neu Trydar wrth rannu lluniau neu sylwadau am eich garddio
Oes gennych hoff adnoddau, rhaglenni, grwpiau, mudiadau, gwmnïau neu gyfrifon sydd yn eich helpu i arddio yn y Gymraeg? Rhannwch rhain hefyd.
Trwy rannu adnoddau ac ymchwilio gyda’n gilydd gallwn dyfu ein geirfa – yr un pryd a’n planhigion!
Rydym yn ymestyn croeso mawr i ddysgwyr, ac yn edrych ymlaen yn arw i glywed am eich gardd – lle bynnag yn y byd rydych yn byw.
Rydym ni ar Instagram a Trydar.
Mae Geirfa Garddio yn brosiect ochr gan Bwyta Ein Gerddi – ond nid oes rhaid ein cysylltu i gymryd rhan. Ewch amdani – pob lwc!
Diolch o galon i Hannah Garcia am y logo hyfryd!
Lansiwyd Geirfa Garddio yn sioe RHS yng Nghaerdydd yn 2017. Tywynodd yr haul arnom! Lluniau i ddod…